Beth bynnag fo lefel eich gallu, mae Clwb Hwylio Llyn Brenig yn cynnig amgylchedd cyfeillgar i fwynhau eich camp.
P’un a ydych chi’n berchennog criwser, dingi neu’n ddechreuwr llwyr eisiau rhoi cynnig ar un o gychod y Clwb, rydyn ni yma i’ch helpu chi i fwynhau’ch hun a gwella’ch sgiliau.
Yn ystod Tymor 2024 bydd hwylio’n cychwyn ym mis Mawrth a rasys wedi’u trefnu yn dechrau ym mis Ebrill.
Diwrnod Agored: Ceisiwch hwylio yn rhad as am ddim!
Ymwelwch â ni ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc, 6 Mai 2024 a rhowch gynnig ar hwylio ar ddyfroedd prydferth Llyn Brenig.
Wedi’i leoli 365 metr / 1200 troedfedd uwch lefel y môr, mae Llyn Brenig yn gorchuddio 920 erw ac wedi’i amgylchynu gan fryniau ar lethrau graddol Mynydd Hiraethog.
Wedi’i leoli ar lan y llyn, mae ein Clwb yn cynnig lle cyfleus i aelodau a gwesteion gael diod boeth a rhywbeth i’w fwyta, a hefyd i newid cyn ac ar ôl mwynhau amser ar y dŵr.
I’r rhai sy’n dod â theulu a ffrindiau, mae cyfleusterau ychwanegol ar gael gerllaw, diolch i Dŵr Cymru, gan gynnwys canolfan ymwelwyr, caffi, siop anrhegion, maes chwarae antur a llogi beiciau.
Os yw’n help i chi, yna gall ein tîm cyfeillgar a gwybodus gynnig cyngor ar bopeth o ble i ddechrau hwylio, trwy ofynion cit hanfodol a hyd yn oed sut i brynu cwch.
Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi a achredir gan y Gymdeithas Hwylio Frenhinol, tra bod ein cynllun hwylio dingi On Board yn galluogi newydd-ddyfodiaid i ennill tystysgrif Lefel I neu Lefel II a gydnabyddir ledled y Deyrnas Unedig.
Mae hyfforddiant Cychod Pŵer Lefel I a Lefel II hefyd ar gael,
Ni waeth pa lefel yr ydych yn hwylio arni, diogelwch yw ein prif flaenoriaeth, ac rydym yn cynnig hyfforddiant Cymorth Cyntaf i’n holl aelodau.
Ymunwch â ni neu, i ddysgu mwy am yr hyn sydd gennym i’w gynnig, cysylltwch â ni.
Llyn Brenig Sailing Club | Clwb Hwylio Llyn Brenig
Nr. Cerrigydrudion, North Wales, LL21 9TT
what3words.com/reshaping.game.shipwreck