Logo of Llyn Brenig Sailing Club.

CYMRAEG

ENGLISH

Cod Ymddygiad

Cod Ymddygiad y Clwb

Polisi Clwb Hwylio Llyn Brenig yw bod yr holl gyfranogwyr, hyfforddwyr, cyfarwyddwyr, swyddogion, rhieni a gwirfoddolwyr yn dangos parch a dealltwriaeth at ei gilydd, yn trin pawb yn gyfartal o fewn cyd-destun y gamp, ac yn cynnal eu hunain mewn ffordd sy’n adlewyrchu egwyddorion y clwb.

Ein nod yw i bawb sy’n cymryd rhan fwynhau eu camp ac i wella eu perfformiad.

Ni fydd iaith ddifrïol, rhegi, bygwth, ymddygiad ymosodol na diffyg parch at eraill a’u heiddo’n cael ei oddef ac fe all arwain at gamau disgyblu.

Cyfranogwyr – morwyr ifanc

Gwrandewch, a derbyniwch yr hyn y gofynnir i chi ei wneud i wella eich perfformiad a’ch cadw’n ddiogel.

Parchwch gyfranogwyr, hyfforddwyr, cyfarwyddwyr, swyddogion a gwirfoddolwyr eraill.

Cadwch at y rheolau a chwaraewch yn deg.

Gwnewch eich gorau bob amser.

Peidiwch byth â bwlio eraill naill ai’n wyneb yn wyneb, dros y ffôn, drwy neges destun neu ar-lein.

Gofalwch am yr holl eiddo sy’n perthyn i gyfranogwyr eraill, y clwb / dosbarth neu ei aelodau.

 

Rhieni

Cefnogwch gyfraniad eich plentyn a’i helpu i fwynhau ei gamp.

Helpwch eich plentyn i adnabod perfformiad da, nid canlyniadau yn unig.

Peidiwch byth â gorfodi’ch plentyn i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Peidiwch byth â chosbi na bychanu plentyn am golli nac am wneud camgymeriadau.

Anogwch ac arweiniwch eich plentyn i dderbyn y cyfrifoldeb am ei ymddygiad a’i berfformiad ei hun.

Parchwch a chefnogwch yr hyfforddwr.

Derbyniwch farn swyddogion a chydnabyddwch berfformiad da gan bawb sy’n cymryd rhan.

Defnyddiwch weithdrefnau sefydledig lle mae pryder gwirioneddol neu anghydfod.

Rhowch wybod i’r clwb neu drefnwyr digwyddiadau am wybodaeth feddygol berthnasol.

Sicrhewch fod eich plentyn yn gwisgo dillad addas a bod ganddo fwyd a diod addas.

Darparwch fanylion cyswllt a byddwch ar gael pan fo angen.

Cymerwch gyfrifoldeb am ddiogelwch ac ymddygiad eich plentyn yn y clwb / lleoliad digwyddiadau ac o’i amgylch.

 

Hyfforddwyr, Cyfarwyddwyr, Swyddogion a Gwirfoddolwyr

Ystyriwch les a diogelwch cyfranogwyr cyn datblygu perfformiad.

Anogwch gyfranogwyr i werthfawrogi eu perfformiad ac nid canlyniadau yn unig.

Hyrwyddwch chwarae teg a pheidiwch byth ag esgusodi twyllo.

Sicrhewch fod yr holl weithgareddau’n briodol i oedran, gallu a phrofiad y rhai sy’n cymryd rhan.

Meithrinwch berthynas yn seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a pharch.

Gweithiwch mewn amgylchedd agored.

Dylech osgoi cysylltiad corfforol diangen â phobl ifanc.

Byddwch yn fodel rôl rhagorol ac arddangoswch safonau ymddygiad ac ymddangosiad cyson uchel.

Peidiwch ag yfed alcohol nac ysmygu wrth weithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc.

Cyfathrebwch yn glir gyda rhieni a chyfranogwyr.

Byddwch yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth feddygol berthnasol.

Dilynwch ganllawiau a pholisïau’r RYA a’r chlwb / dosbarth.

Rhaid i ddeiliaid cymwysterau Hyfforddwr a Chyfarwyddwyr RYA hefyd gydymffurfio â Chod Ymddygiad RYA.

Rhaid i ddeiliaid penodiadau Swyddogion Rasio RYA, hefyd gydymffurfio â Chod Ymddygiad Swyddogion Rasio RYA.

Os ydych yn pryderu nad yw rhywun yn dilyn y Cod Ymddygiad, dylech roi gwybod i Swyddog Lles y Clwb neu’r person sy’n gyfrifol am y gweithgaredd.